Rydyn ni’n lansio gwasanaeth newydd sbon dros y ffôn o’r enw Gwrando a Chysylltu, sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr. Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl hŷn a allai fod yn teimlo’n unig ac ynysig. Bydd gwirfoddolwyr yn helpu pobl i deimlo’n ddiogel, ac yn darparu clust i wrando a chefnogaeth i drafod y materion sy’n bwysig iddyn nhw.
Am fwy o wybodaeth am y rôl, gweler yr hysbyseb atodedig.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych.